Cynyddu effaith eich elusen gyda digidol
Mae digidol yn hanfodol er mwyn i elusennau fod yn berthnasol a chyflawni eu pwrpas yn yr oes ddigidol.
Mae'r Cod Ymarfer Digidol i Elusennau ar gyfer gweithwyr proffesiynol elusennol sy'n ceisio dod yn fwy strategol gyda digidol. Gall y Cod eich helpu i ddarganfod y camau allweddol y mae'n rhaid i'ch elusen eu cymryd i aros yn berthnasol a chynyddu eich effaith, effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.
7 egwyddor y Cod
Rydym wedi nodi 7 maes digidol allweddol y dylai eich sefydliad fod yn meddwl amdanynt er mwyn aros yn berthnasol a chael effaith.
Gweld y canllawiau yn ôl eich swydd
Er mwyn ei gwneud hi’n haws i chi ddechrau arni, edrychwch ar egwyddorion y Cod rydyn ni’n teimlo sydd fwyaf perthnasol i chi a’ch swydd.
Rhestr wirio ddigidol COVID-19 ar gyfer arweinwyr ac ymddiriedolwyr elusennau
Rydyn ni wedi llunio’r rhestr wirio hon i helpu arweinwyr a byrddau elusennau gyda’r penderfyniadau mae angen iddyn nhw eu gwneud am faterion digidol yn ystod yr argyfwng.
Astudiaeth achos fideo
Martin Francis Campbell, Prif Swyddog Gwybodaeth yn World Vision UK, ar sut mae angen i elusennau addasu er mwyn ffynnu.
“Yr hyn y mae’r gallu i addasu yn ein galluogi i wneud yw dod o unman, sef yr hyn y mae llawer o fusnesau newydd yn ei wneud er mwyn tyfu’n gyflym iawn ac i darfu.[...] Fel elusen mae hynny'n wirioneddol bwysig i ni gan ein bod yn ceisio treiddio i mewn i feddyliau pobl a’u helpu i ddeall y gwaith rydyn ni’n ei wneud.”