Egwyddor 2

Dan Arweiniad Defnyddwyr

Dylai elusennau wneud anghenion ac ymddygiad buddiolwyr a rhanddeiliaid eraill yn fan cychwyn ar gyfer popeth a wnânt yn ddigidol.

Yn ôl Ofcom, mae gan 88% o oedolion fynediad i'r rhyngrwyd gartref erbyn hyn. Mae’n hanfodol datblygu strategaeth, gwasanaethau a swyddogaethau’r elusen o ran sut y mae buddiolwyr, cefnogwyr, rhoddwyr a rhanddeiliaid eraill yn defnyddio adnoddau digidol er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn addas i’r diben.

3 gweithred gyflym ar gyfer elusennau

  • Holwch eich defnyddwyr gwasanaethau am eu harferion technolegol – ydyn nhw wedi defnyddio dyfais benodol i gysylltu â’ch gwasanaeth? Pam oedden nhw wedi defnyddio’r ddyfais benodol honno?
  • Profwch eich offer digidol gyda’ch defnyddwyr gwasanaeth i weld a ellid gwella’r offer ac a oes unrhyw fylchau
  • Edrychwch ar sefydliad sydd â gwasanaeth tebyg i’ch un chi – a oes unrhyw wasanaethau maen nhw’n eu darparu ar-lein? Allech chi wneud rhywbeth tebyg (ee cymryd taliadau ar-lein)

Dan Arweiniad Defnyddwyr: Arferion sy’n cael eu Hargymell

Gan fod 88% o oedolion bellach yn cael mynediad i’r rhyngrwyd gartref (Ofcom) mae gwrando ar anghenion eich defnyddwyr yn bwysicach fyth. Gallwch ddefnyddio’r canllawiau ymarfer gorau hyn fel rhestr wirio i weld a yw eich sefydliad yn cael ei arwain fwy gan ddefnyddwyr.

Rydym wedi amlinellu’r arferion gorau yn seiliedig ar faint eich elusen. Rydym yn diffinio elusennau bach fel y rheini sydd ag incwm blynyddol o £1 miliwn neu lai, ac elusennau mwy fel y rheini sy’n cynhyrchu incwm sydd dros £1 miliwn y flwyddyn.

DataKind

Astudiaeth achos:

DataKind UK

Dysgwch sut mae DataKind UK yn defnyddio’r Cod i gynyddu ei effaith, gweithio gydag uwch dimau a chymryd camau ymarferol tuag at lwyddiant digidol.

Egwyddor Nesaf: Diwylliant

Dylai gwerthoedd elusennau ddylanwadu ar y ffordd maen nhw’n gweithio, ac os yw’r amgylchedd yn iawn dylai feithrin llwyddiant digidol.

Bydd y diwylliant cywir yn datblygu hyder a chymhelliant y staff a’r gwirfoddolwyr ym maes digidol, ac yn eu grymuso i gydweithio, defnyddio data i wella’r broses o wneud penderfyniadau a bod yn fwy tryloyw.

10-01