Egwyddor 4

Strategaeth

Mae elusennau angen gweledigaeth glir, pwrpas ac eglurder o ran sut maen nhw’n defnyddio technoleg ddigidol. Gallwch ddefnyddio’r canllawiau ymarfer gorau hyn fel rhestr wirio i fesur sut mae eich sefydliad yn dod yn ei flaen yn strategol.

3 gweithred gyflym ar gyfer elusennau

  • Edrychwch ar eich gweledigaeth a’ch cenhadaeth fel sail i’ch strategaeth ddigidol – sut gellir defnyddio offer digidol i fynd i’r afael ag anghenion defnyddwyr eich gwasanaeth a chyfrannu at y newid i gymdeithas rydych chi am ei wneud fel sefydliad?
  • Gofynnwch i’ch tîm a allai adnodd digidol eu helpu i wneud eu gwaith yn well ac ystyriwch sut gallwch chi wreiddio adnoddau a sgiliau digidol yn fewnol?
  • Cymharwch eich hun â sefydliad sy’n gwneud gwaith tebyg – ystyriwch sut y gallech chi ddefnyddio technoleg ddigidol i’ch helpu i sefyll allan?

Arfer gorau ar gyfer elusennau

Mae elusennau angen gweledigaeth glir, pwrpas ac eglurder o ran sut maen nhw’n defnyddio technoleg ddigidol. Gallwch ddefnyddio’r canllawiau ymarfer gorau hyn fel rhestr wirio i fesur sut mae eich sefydliad yn dod yn ei flaen yn strategol.

Rydym wedi amlinellu’r arferion gorau yn seiliedig ar faint eich elusen. Rydym yn diffinio elusennau bach fel y rheini sydd ag incwm blynyddol o £1 miliwn neu lai, ac elusennau mwy fel y rheini sy’n cynhyrchu incwm sydd dros £1 miliwn y flwyddyn.

TLC_Logo

Astudiaeth achos:

TLC: Talk, Listen Change

Dysgwch sut mae TLC yn defnyddio’r Cod i gynyddu ei effaith, gweithio gydag uwch dimau a chymryd camau ymarferol tuag at lwyddiant digidol.

Egwyddor Nesaf: Sgiliau

Dylai elusennau geisio sicrhau bod yna sgiliau digidol ym mhob lefel yn y mudiad.

12-01