Egwyddor 7

Gallu i addasu

Mae llawer o astudiaethau diweddar wedi dangos y bydd sefydliadau nad ydynt yn ystyried sut maen nhw’n addasu i’r oes ddigidol yn colli perthnasedd ac ymgysylltiad.

3 gweithred gyflym ar gyfer elusennau

  • Rhowch gynnig ar ffyrdd newydd o gyfathrebu â’ch timau fel trello neu slack – bydd hyn yn helpu eich dulliau cyfathrebu i fod yn fwy tryloyw na negeseuon e-bost traddodiadol.
  • Agorwch wefan eich sefydliad ar ddyfais symudol i weld a yw wedi'i optimeiddio i’w ddefnyddio ar ddyfeisiau symudol. Os yw’n anodd ei ddarllen, gwnewch hyn yn gam allweddol i’w newid.
  • Beth am gynnal gweithdy/grŵp ffocws i gael adborth ar unrhyw newidiadau digidol rydych wedi’u gwneud – byddwch yn barod i wneud newidiadau er mwyn parhau i wella’r gwasanaethau.

Arfer gorau ar gyfer elusennau

Gall sefydliadau nad ydynt yn cadw i fyny â’r dirwedd ddigidol sy’n newid o hyd ganfod bod eu buddiolwyr yn chwilio am elusen arall i’w helpu, sy’n golygu eu bod yn colli perthnasedd ymysg rhanddeiliaid eraill hefyd. Gallwch ddefnyddio’r canllawiau ymarfer gorau hyn fel rhestr wirio i fesur sut mae eich sefydliad yn addasu i’r oes ddigidol.

Mae’r canllawiau’r un fath ar gyfer elusennau bach a mawr. Rydym yn diffinio elusennau bach fel y rheini sydd ag incwm blynyddol o £1 miliwn neu lai, ac elusennau mwy fel y rheini sy’n cynhyrchu incwm sydd dros £1 miliwn y flwyddyn.

Innovate-Trust-SVG

Case study:

Innovate Trust

Dysgwch sut mae Innovate Trust yn defnyddio’r Cod i gynyddu ei heffaith, gweithio gydag uwch dimau a chymryd camau ymarferol tuag at lwyddiant digidol.

Egwyddor Nesaf: Gallu i addasu

Mae llawer o astudiaethau diweddar wedi dangos y bydd sefydliadau nad ydynt yn ystyried sut maen nhw’n addasu i’r oes ddigidol yn colli perthnasedd ac ymgysylltiad.

14-01