Cefndir y Cod

Mae’r Cod Ymarfer Digidol i Elusennau yn drosolwg o’r prif feysydd y mae angen i elusennau fod yn ymwybodol ohonynt ym maes digidol, a gellir ei ddefnyddio i feincnodi eu cynnydd.

Ar gyfer pwy mae’r Cod?

Mae’n cefnogi elusennau o bob maint, cyllideb neu achos i symud ymlaen gydag adnoddau digidol, ac yn cynnig: 

  • fframwaith cyson i’r sector weithio tuag ato
  • adnoddau i’ch helpu i ddiffinio eich camau nesaf, ac
  • enghreifftiau o elusennau sydd eisoes wedi dechrau rhoi’r Cod ar waith

Mae’r Cod ar gyfer elusennau sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol i sefydliadau eraill, megis grwpiau cymunedol bach nad ydynt o bosibl yn elusennau cofrestredig.

Mae egwyddorion ac arferion gorau’r Cod wedi’u cynllunio i fod yn berthnasol i elusennau o bob maint. Rydyn ni wedi datblygu fersiwn ar gyfer elusennau bach, ac rydyn ni’n diffinio’r rheini fel rhai sydd ag incwm blynyddol o £1 miliwn neu lai, ac un ar gyfer elusennau mwy (y rheini sy’n cynhyrchu incwm sydd dros £1 miliwn y flwyddyn).

Pam datblygwyd y Cod?

Mae technoleg ddigidol yn newid y ffordd rydyn ni i gyd yn byw ac yn gweithio, gyda dros 4 biliwn o bobl yn defnyddio’r rhyngrwyd erbyn hyn, gyda 3.2 biliwn ar y cyfryngau cymdeithasol ar draws y byd.

Wrth i ymddygiad a disgwyliadau pobl newid, mae angen i elusennau gymryd camau i aros yn berthnasol a manteisio ar botensial technoleg ddigidol – datblygwyd y Cod Ymarfer Digidol i Elusennau i’w helpu i wneud hynny.

Cynnwys
    Add a header to begin generating the table of contents

    Sut dylai gael ei ddefnyddio?

    Dylid defnyddio’r Cod yn rhan o’r ffordd y mae elusennau’n mesur eu datblygiadau digidol ac i lywio penderfyniadau allweddol yn y maes hwn. Felly, gobeithiwn y bydd mudiadau’n ei ddefnyddio’n rheolaidd.

    Efallai yr hoffai rai elusennau roi ‘digidol’ yn eitem barhaol yng nghyfarfodydd y bwrdd neu’r tîm gweithredol, boed hynny ar wahân neu’n rhan o bwyntiau eraill ar yr agenda, ac os yw’n briodol i faint eu mudiad.

    Rhennir y Cod yn egwyddorion allweddol, eglurhad pam mae pob un yn bwysig, sut beth fyddai llwyddiant a’r arfer gorau sydd ei angen i gyflawni hynny.

    Yn y Cod rydym wedi defnyddio ‘rhaid’ a ‘dylai’ i ddangos beth rydym ni’n ei ystyried yw’r arferion da lleiaf, a ‘gallai’ i ddangos yr arferion gorau posib. Rydym wedi cymryd yn ganiataol y bydd elusennau’n cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol wrth ddefnyddio technoleg ddigidol, megis deddfwriaeth diogelu data a’r GDPR. Dylid darllen y Cod ar y cyd â chodau eraill a chanllawiau arfer gorau, gan gynnwys y canlynol:

    Rydym hefyd wedi cymryd yn ganiataol eich bod yn gyfarwydd â strategaeth, gweledigaeth a chenhadaeth yr elusen. Os ydych yn ystyried datblygu cynnyrch i gefnogi’r Cod bydd angen i chi gysylltu â’r grŵp llywio.

    Gillian Murray_2019

    “Es â’r 7 egwyddor i gyfarfod nesaf y bwrdd. Yna sefydlais weithgor digidol – fi, 2 aelod o staff, 2 aelod o’r bwrdd a rhanddeiliad allanol. Daethom at ein gilydd sawl gwaith i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yn ei gylch. Gwnaethom lanio ar 3 bwced: strategaeth, data a diwylliant. Hefyd, gwnaethom ystyried sut y gallem ei hyrwyddo i’r aelodau. A llwyddon ni i gael ein hymddiriedolwyr i ymuno â WhatsApp!"

    Gillian Murray, Prif Swyddog Gweithredol, Pilotlight a Hyrwyddwr y Cod

    Pwy sydd wedi datblygu’r Cod?

     

    Datblygwyd y Cod Ymarfer Digidol i Elusennau gan grŵp llywio ac ynddo fudiadau o’r sector drwyddo draw, sef:

    Rôl y grŵp yw datblygu, hyrwyddo, adolygu a chynnal y Cod. Mae ganddo gadeirydd annibynnol, sef Zoe Amar. Diolch i Sefydliad Co-op a Grŵp Bancio Lloyds am ariannu datblygiad y Cod.

    Mae’r Cod Ymarfer Digidol i Elusennau yn rhan o’r Digital Enterprise Delivery Group y mae Grŵp Bancio Lloyds yn falch o’i arwain.

    Table of Contents
      Add a header to begin generating the table of contents

      Fel rhan o’r Digital Enterprise Delivery Group, mae Grŵp Bancio Lloyds yn gweithio gyda phartneriaid cefnogol i wella galluoedd digidol ledled Prydain a gyda mudiadau i gynnal rhaglenni hyrwyddwyr digidol lleol.

      Ein cyllidwyr sefydlol

      Ni fyddai'r Cod wedi bod yn bosibl heb y cyllidwyr a oedd wedi’i gefnogi yn y lle cyntaf. Diolch i Sefydliad y Co-op a’r Lloyds Banking Group.

      Cyllidwyr Blwyddyn 2

      Mae Charity IT Leaders a CISCO wedi ymuno â’n cyllidwyr sefydlol i’n cefnogi eleni. Mae’r Cod yn cael ei feithrin gan y Centre for Acceleration of Social Technology (CAST) fel rhan o Catalyst, menter elusennol sy’n ceisio cynyddu gallu’r sector ym maes digidol. Ariennir Catalyst gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Esmee Fairbairn, Comic Relief, Sefydliad Paul Hamlyn, City Bridge Trust a Sefydliad Coop. 

      Ein partneriaid technegol

      Mae gwefan newydd y Cod wedi’i dylunio a’i chreu gan ein partner datblygu, Third Sector Lab.

      Y Cod mewn 7 Wythnos

      Os ydych chi eisiau helpu eich elusen i ddefnyddio technoleg ddigidol i gynyddu ei heffaith, i berswadio eich tîm arwain i gefnogi digidol neu i ddeall sut gall eich elusen ddilyn arferion gorau, beth am gofrestru i dderbyn e-bost unwaith yr wythnos dros y 7 wythnos nesaf i’ch helpu chi i ddechrau arni gyda’r Cod?

      20-01

      “Fel unrhyw sefydliad, gall elusennau ddysgu llawer am yr hyn maen nhw’n ei wneud, pwy maen nhw’n ei wasanaethu a’r effaith maen nhw’n ei chael drwy ddefnyddio eu data.”

      Giselle

      Giselle Cory

      Cyfarwyddwr Gweithredol, DataKind UK a Hyrwyddwr y Cod

      “Nid yw bellach yn ddigon da dweud fel Prif Weithredwr:
      ‘Does gen i ddim diddordeb mewn pethau digidol’.”

      James-Blake

      James Blake

      Prif Swyddog Gweithredol, YHA (Cymru a Lloegr) a Hyrwyddwr y Cod