Egwyddor 3
Diwylliant
Dylai gwerthoedd elusennau ddylanwadu ar y ffordd maen nhw’n gweithio, ac os yw’r amgylchedd yn iawn dylai feithrin llwyddiant digidol.
Bydd y diwylliant cywir yn datblygu hyder a chymhelliant y staff a’r gwirfoddolwyr ym maes digidol, ac yn eu grymuso i gydweithio, defnyddio data i wella’r broses o wneud penderfyniadau a bod yn fwy tryloyw.
3 gweithred gyflym ar gyfer elusennau
Diwylliant: Arferion sy’n cael eu Hargymell
Helpwch eich staff a’ch gwirfoddolwyr i gael gwared ar seilos a chreu momentwm o fewn eich sefydliad. Defnyddiwch y canllawiau ymarfer gorau hyn fel rhestr wirio i fesur sut mae diwylliant eich sefydliad yn dod yn ei flaen.
Rydym wedi amlinellu’r arferion gorau yn seiliedig ar faint eich elusen. Rydym yn diffinio elusennau bach fel y rheini sydd ag incwm blynyddol o £1 miliwn neu lai, ac elusennau mwy fel y rheini sy’n cynhyrchu incwm sydd dros £1 miliwn y flwyddyn.
Astudiaeth achos:
One Knowsley
Dysgwch sut mae One Knowsley yn defnyddio’r Cod i gynyddu ei effaith, gweithio gydag uwch dimau a chymryd camau ymarferol tuag at lwyddiant digidol.