Plymio i fyd y Cod
Mae 7 maes digidol allweddol y dylai eich sefydliad fod yn meddwl amdanynt er mwyn aros yn berthnasol a chael effaith.
Archwilio’r 7 egwyddor
Y rhain yw’r 7 maes digidol allweddol y dylai eich sefydliad fod yn meddwl amdanynt er mwyn aros yn berthnasol a chael effaith.
Dechreuwch gyda’r un sy’n teimlo fwyaf pwysig i chi a’ch sefydliad.
Sylwch: Os oes angen eglurhad ar gyfer unrhyw un o’r termau neu’r ymadroddion sy’n ymddangos ar y wefan hon, edrychwch ar ein geirfa.
1. Arweinyddiaeth
Dylai digidol fod yn rhan o set sgiliau pob arweinydd elusen er mwyn helpu ei sefydliad i aros yn berthnasol, cyflawni ei gweledigaeth a chynyddu ei heffaith.
2. Dan Arweiniad Defnyddwyr
Mae’n hanfodol datblygu strategaeth, gwasanaethau a swyddogaethau’r elusen o ran sut y mae buddiolwyr, cefnogwyr, rhoddwyr a rhanddeiliaid eraill yn defnyddio adnoddau digidol er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn addas i’r diben.
3. Diwylliant
Dylai gwerthoedd elusennau ddylanwadu ar y ffordd maen nhw’n gweithio, ac os yw’r amgylchedd yn iawn dylai feithrin llwyddiant digidol.
4. Strategaeth
Mae elusennau angen gweledigaeth glir, pwrpas ac eglurder o ran sut maen nhw’n defnyddio technoleg ddigidol. Gallwch ddefnyddio’r canllawiau ymarfer gorau hyn fel rhestr wirio i fesur sut mae eich sefydliad yn dod yn ei flaen yn strategol.
5. Sgiliau
Adolygwch sgiliau eich tîm i asesu a oes bylchau mewn hyfforddiant yn eich tîm/neu a oes angen i chi recriwtio aelod newydd o’r tîm i roi elfennau digidol eich strategaeth ar waith.
6. Rheoli Risgiau a Moeseg
Mae angen i elusennau bennu a rheoli unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â materion digidol er mwyn cadw ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd a delio ag unrhyw broblemau o ran enw da.
7. Gallu i addasu
Gall sefydliadau nad ydynt yn cadw i fyny â’r dirwedd ddigidol sy’n newid o hyd ganfod bod eu buddiolwyr yn chwilio am elusen arall i’w helpu, sy’n golygu eu bod yn colli perthnasedd ymysg rhanddeiliaid eraill hefyd.