COVID-19
Rydyn ni’n byw drwy gyfnod ansicr na welwyd ei debyg o’r blaen. Mae argyfwng y Coronafeirws yn newid sut mae elusennau’n defnyddio technoleg ddigidol i weithio, i godi arian ac i gynnig gwasanaethau.
Efallai eich bod yn ystyried sut i addasu eich ffyrdd o weithio a’ch gwasanaethau, neu’n edrych ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf mewn perthynas â materion digidol. Mae gennym adnoddau a fydd yn helpu.
Mae un o bartneriaid y Cod, The Catalyst, wrthi’n ymchwilio i sut mae elusennau’n addasu i’r realiti newydd hwn ac yn ymgysylltu â’r byd digidol. Byddwn yn cefnogi’r hyn maen nhw’n ei ddysgu am anghenion defnyddwyr drwy ddiweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd gydag adnoddau i’ch helpu.
Os hoffech chi siarad ag arbenigwr am unrhyw heriau digidol rydych chi’n eu hwynebu yn ystod Covid-19, beth am archebu ymgynghoriad 1 awr yn rhad ac am ddim ar Digital Candle.
Sgiliau digidol a gweithio o bell
- Sut mae gweithio o bell yn ystod y Coronafeirws gan David Ainsworth yn CAST
- Sut mae adolygu eich cynnydd o ran gweithio o bell gan Beth Parfitt, Pennaeth Digidol yn Tearfund
- Offer digidol ar gyfer gweithio o bell: awgrymiadau'r sector gan Matt Chittock ar ran Charitycomms
- Sut mae helpu staff i addasu i weithio o bell gan Zoe Amar ar ran Digital Leaders
- 15 o adnoddau cyfathrebu digidol rhad ac am ddim i elusennau eu defnyddio yn ystod pandemig y coronafeirws gan yr Ymddiriedolaeth Cyfryngau
- Canllaw i adnoddau digidol gan The Catalyst
- Canllaw ar weithio gartref a seiberddiogelwch gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
Cyflenwi gwasanaethau digidol
- Adnoddau ar gyfer model cyflenwi gwasanaethau newydd gan SCVO
- Coronafeirws: Yr offer digidol gorau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau gan Chloe Green ar ran Charity Digital News
- Sut mae Gweithredu dros Blant yn cefnogi mwy o deuluoedd drwy ddefnyddio technoleg ddigidol gan Lynn Roberts
- Sut mae The Mix wedi addasu i gyfyngiadau symud y Coronafeirws gan Platypus Digital
- Adnoddau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau digidol i elusennau gan The Catalyst
- Galwadau Zoom ac adnoddau cyflenwi gwasanaethau digidol (gan gynnwys astudiaethau achos a sut i ddelio â diogelu) gan Thirdsectorlab
- Ryseitiau Gwasanaeth – canllawiau ymarferol i helpu elusennau i ailddefnyddio a dysgu o wasanaethau ei gilydd gan Catalyst
Cynhwysiant digidol
- Hunanynysu, cadw pellter cymdeithasol a chynhwysiant digidol gan Aaron Slater ar ran SCVO
- Adnoddau cynhwysiant digidol y coronafeirws gan Dinasyddion Ar-lein
- Reboot gan Nominet, adnodd i’ch helpu i gynllunio ffordd gost-effeithiol, ymarferol ac eco-gyfeillgar o gael eich cymuned ar-lein.
Beth rydyn ni’n ei wneud nesaf gydag adnoddau digidol?
- Mae’r Cod Ymarfer Digidol i Elusennau wedi llunio rhestr wirio i helpu arweinwyr a byrddau elusennau gyda’r penderfyniadau mae angen iddyn nhw eu gwneud am faterion digidol yn ystod yr argyfwng.
- Bydd y Cod Ymarfer Digidol i Elusennau yn cynnal cyfres o weminarau ‘Beth nesaf?’ i’ch helpu i gynllunio eich camau nesaf gyda digidol yn ystod COVID-19. Gweld y dyddiadau a’r pynciau yma
- Saith awgrym ar gyfer arwain eich elusen drwy broses trawsnewid digidol COVID-19 gan Joe Roberson
- Sut i fod yn arweinydd digidol dros nos gan Zoe Amar ar ran Charity Digital News
- Edrychwch ar yr egwyddorion ar arweinyddiaeth, strategaeth a rheoli risg yn y Cod Ymarfer Digidol i Elusennau.
Y camau nesaf
Byddwn yn ychwanegu at y dudalen hon ac yn creu cynnwys newydd, gan gynnwys gweminarau, i’ch helpu chi drwy gydol yr argyfwng, felly cadwch lygad am newidiadau.
Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau am adnoddau, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost ataf i charitydigitalcode@zoeamar.com