Cefndir y Cod
Mae’r Cod Ymarfer Digidol i Elusennau yn drosolwg o’r prif feysydd y mae angen i elusennau fod yn ymwybodol ohonynt ym maes digidol, a gellir ei ddefnyddio i feincnodi eu cynnydd.
Ar gyfer pwy mae’r Cod?
Mae’n cefnogi elusennau o bob maint, cyllideb neu achos i symud ymlaen gydag adnoddau digidol, ac yn cynnig:
- fframwaith cyson i’r sector weithio tuag ato
- adnoddau i’ch helpu i ddiffinio eich camau nesaf, ac
- enghreifftiau o elusennau sydd eisoes wedi dechrau rhoi’r Cod ar waith
Mae’r Cod ar gyfer elusennau sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol i sefydliadau eraill, megis grwpiau cymunedol bach nad ydynt o bosibl yn elusennau cofrestredig.
Mae egwyddorion ac arferion gorau’r Cod wedi’u cynllunio i fod yn berthnasol i elusennau o bob maint. Rydyn ni wedi datblygu fersiwn ar gyfer elusennau bach, ac rydyn ni’n diffinio’r rheini fel rhai sydd ag incwm blynyddol o £1 miliwn neu lai, ac un ar gyfer elusennau mwy (y rheini sy’n cynhyrchu incwm sydd dros £1 miliwn y flwyddyn).
Pam datblygwyd y Cod?
Mae technoleg ddigidol yn newid y ffordd rydyn ni i gyd yn byw ac yn gweithio, gyda dros 4 biliwn o bobl yn defnyddio’r rhyngrwyd erbyn hyn, gyda 3.2 biliwn ar y cyfryngau cymdeithasol ar draws y byd.
Wrth i ymddygiad a disgwyliadau pobl newid, mae angen i elusennau gymryd camau i aros yn berthnasol a manteisio ar botensial technoleg ddigidol – datblygwyd y Cod Ymarfer Digidol i Elusennau i’w helpu i wneud hynny.
Sut dylai gael ei ddefnyddio?
Dylid defnyddio’r Cod yn rhan o’r ffordd y mae elusennau’n mesur eu datblygiadau digidol ac i lywio penderfyniadau allweddol yn y maes hwn. Felly, gobeithiwn y bydd mudiadau’n ei ddefnyddio’n rheolaidd.
Efallai yr hoffai rai elusennau roi ‘digidol’ yn eitem barhaol yng nghyfarfodydd y bwrdd neu’r tîm gweithredol, boed hynny ar wahân neu’n rhan o bwyntiau eraill ar yr agenda, ac os yw’n briodol i faint eu mudiad.
Rhennir y Cod yn egwyddorion allweddol, eglurhad pam mae pob un yn bwysig, sut beth fyddai llwyddiant a’r arfer gorau sydd ei angen i gyflawni hynny.
Yn y Cod rydym wedi defnyddio ‘rhaid’ a ‘dylai’ i ddangos beth rydym ni’n ei ystyried yw’r arferion da lleiaf, a ‘gallai’ i ddangos yr arferion gorau posib. Rydym wedi cymryd yn ganiataol y bydd elusennau’n cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol wrth ddefnyddio technoleg ddigidol, megis deddfwriaeth diogelu data a’r GDPR. Dylid darllen y Cod ar y cyd â chodau eraill a chanllawiau arfer gorau, gan gynnwys y canlynol:
- The Charity Governance Code
- The section on digital media in the Fundraising Code of Practice
- Cyber Essentials
- The Charity Commission’s digital guidelines for trustees
- CAST’s digital service design standards
- Voluntary Sector Digital Maturity Matrix
- Principles for Digital Development (for NGOs).
Rydym hefyd wedi cymryd yn ganiataol eich bod yn gyfarwydd â strategaeth, gweledigaeth a chenhadaeth yr elusen. Os ydych yn ystyried datblygu cynnyrch i gefnogi’r Cod bydd angen i chi gysylltu â’r grŵp llywio.
Gillian Murray, Prif Swyddog Gweithredol, Pilotlight a Hyrwyddwr y Cod
Pwy sydd wedi datblygu’r Cod?
Datblygwyd y Cod Ymarfer Digidol i Elusennau gan grŵp llywio ac ynddo fudiadau o’r sector drwyddo draw, sef:
- Association of Chief Executives of Voluntary Organisations (ACEVO)
- CAST (The Centre for Acceleration of Social Technology)
- The Charity Commission
- Charity Finance Group (CFG)
- Charity IT Leaders
- Co-op Foundation
- Lloyds Bank Foundation
- Lloyds Banking Group
- NAVCA (the National Association for Voluntary and Community Action)
- NCVO (the National Council for Voluntary Organisations)
- Office for Civil Society
- Small Charities Coalition
- Charity Digital
- SCVO (the Scottish Council for Voluntary Organisations)
- WCVA (Wales Council for Voluntary Action)
- ACF (Association of Charitable Foundations)
- Superhighways
- VONNE
Rôl y grŵp yw datblygu, hyrwyddo, adolygu a chynnal y Cod. Mae ganddo gadeirydd annibynnol, sef Zoe Amar. Diolch i Sefydliad Co-op a Grŵp Bancio Lloyds am ariannu datblygiad y Cod.
Mae’r Cod Ymarfer Digidol i Elusennau yn rhan o’r Digital Enterprise Delivery Group y mae Grŵp Bancio Lloyds yn falch o’i arwain.
Fel rhan o’r Digital Enterprise Delivery Group, mae Grŵp Bancio Lloyds yn gweithio gyda phartneriaid cefnogol i wella galluoedd digidol ledled Prydain a gyda mudiadau i gynnal rhaglenni hyrwyddwyr digidol lleol.
Ein cyllidwyr sefydlol
Ni fyddai'r Cod wedi bod yn bosibl heb y cyllidwyr a oedd wedi’i gefnogi yn y lle cyntaf. Diolch i Sefydliad y Co-op a’r Lloyds Banking Group.
Cyllidwyr Blwyddyn 2
Mae Charity IT Leaders a CISCO wedi ymuno â’n cyllidwyr sefydlol i’n cefnogi eleni. Mae’r Cod yn cael ei feithrin gan y Centre for Acceleration of Social Technology (CAST) fel rhan o Catalyst, menter elusennol sy’n ceisio cynyddu gallu’r sector ym maes digidol. Ariennir Catalyst gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Esmee Fairbairn, Comic Relief, Sefydliad Paul Hamlyn, City Bridge Trust a Sefydliad Coop.
Ein partneriaid technegol
Mae gwefan newydd y Cod wedi’i dylunio a’i chreu gan ein partner datblygu, Third Sector Lab.